|
Rhif y ddeiseb: P-06-1547 Teitl y ddeiseb: Mae treillio ar wely’r môr yn lladd ein bywyd gwyllt morol… Rhowch y gorau i chwalu’n bywyd gwyllt morol! Geiriad y ddeiseb: Mae ffilm ddogfen ddiweddaraf Syr David Attenborough, Oceans, yn tynnu sylw at y ffaith syfrdanol fod 97% o’n hardaloedd morol gwarchodedig – a grëwyd i ddiogelu cynefinoedd cefnforol – yn cael eu dinistrio trwy gael eu carthu a'u treillio ar wely’r môr. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd pob math o dreillio gwaelodol yn nyfroedd Cymru, gan longau tramor a'r DU fel ei gilydd. Rydym ni mewn argyfwng ecolegol ac mae angen gweithredu nawr. Os na awn ati i gymryd camau nawr, ni fydd gennym unrhyw obaith o atal y broses erchyll o golli bioamrywiaeth, na lliniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd. Mae'r arfer eang hwn o bysgota yn cynnwys llusgo rhwydi metel trwm ar hyd gwely'r môr, gan chwalu holl fywyd y môr sydd o’i flaen, i bob pwrpas! Mae ymchwil newydd wedi datgelu bod y system hon o bysgota yn allyrru un gigadunnell o garbon bob blwyddyn. Mae'r carbon hwn yn cael ei ryddhau o waddod gwely'r môr i'r dŵr, a gall gynyddu’r broses o asideiddio'r cefnforoedd, yn ogystal ag effeithio'n andwyol ar gynhyrchiant a bioamrywiaeth. Gwaddodion morol yw'r gronfa fwyaf o storio carbon yn y byd. Mewn gwirionedd, mae cychod pysgota sy'n treillio llawr y cefnfor yn rhyddhau cymaint o garbon deuocsid â'r diwydiant hedfan cyfan! Does dim lle i dreillio gwaelodol mewn Cymru fodern sy’n gyfeillgar tuag at fyd natur!
Mae'r testun a ddarperir uchod yn cael ei gyflwyno gan y deisebydd. Mae'r tîm deisebau yn gwneud pob ymdrech i sicrhau ei fod yn cadw ei lais dilys. Nid yw'r testun hwn wedi'i wirio am gywirdeb, neu wallau, a gall gynnwys barn neu honiadau heb eu gwirio. |
Mae treillio gwaelodol yn ddull o bysgota lle mae rhwydi pwysedig yn cael eu llusgo ar draws gwely'r môr, gan ddal rhywogaethau sy'n byw ar neu ger gwely'r môr. Mae'r math hwn o bysgota yn cynnwys:
§ Treillongau trawst sy'n targedu pysgod ar wely'r môr drwy lusgo rhwyd o'r naill ochr a'r llall i'r cwch.
§ Treillongau dyfnforol sy'n pysgota ar hyd gwely’r môr neu ychydig yn uwch na hynny i ddal pysgod dyfnforol (sy’n byw ar wely’r môr). Mae rhwyd siâp twndis yn cael ei llusgo y tu ôl i un neu ddau o gychod.
§ Llusgrwydi sy'n strwythurau anhyblyg a gaiff eu llusgo ar hyd gwely'r môr gan gwch. Fe'u defnyddir i dargedu rhywogaethau pysgod cregyn fel cregyn bylchog ac wystrys.
Mae’r Ymddiriedolaethau Natur yn dweud bod treillio gwaelodol yn achosi i nifer sylweddol o anifeiliaid a ddaliwyd gael eu gwaredu, yn dal bywyd gwyllt yn ddiwahân, ac yn rhyddhau carbon o waelod y môr i'r atmosffer. Canfu adroddiad yn 2020 gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) fod y 10cm uchaf o waddodion morol Cymru yn storio o leiaf 113 miliwn tunnell o garbon – sy’n cyfateb i bron i 170% o’r carbon sy’n cael ei storio yng nghoedwigoedd Cymru.
Mae’r Cyngor Stiwardiaeth Forol yn dweud bod effaith treillio gwaelodol ar ecosystemau yn dibynnu ar sensitifrwydd cynefinoedd a dyluniad offer treillio. Edrychodd astudiaeth yn 2021 gan y Gymdeithas Cadwraeth Forol ar effaith gwaharddiad ar dreillio gwaelodol mewn tair Ardal Forol Warchodedig yn y DU. Canfu fod bioamrywiaeth wedi cynyddu 21% ar gyfartaledd o fewn pum mlynedd i'r gwaharddiad ddod i rym.

Map o
Ardaloedd Morol Gwarchodedig Cymru
Ffynhonnell:Llywodraeth Cymru
Mae Ardaloedd Morol Gwarchodedig yn safleoedd sydd â lefel o amddiffyniad i natur yn y môr. Mae gan Gymru 139 o Ardaloedd Morol Gwarchodedig (sy'n cynnwys pum dynodiad gwahanol), ar y cyd yn ymestyn dros tua 50% o'i dyfroedd. Nid yw pob nodwedd ecosystem wedi'i gwarchod mewn Ardaloedd Morol Gwarchodedig. Er enghraifft, Ardal Forol Warchodedig fwyaf Cymru yw Ardal Gadwraeth Arbennig Morol Gorllewin Cymru, a’i hunig nodwedd gwarchodedig yw’r llamhidydd. Parth Cadwraeth Forol Sgomer (cyfanswm arwynebedd 13 km2) yw'r unig Ardal Forol Warchodedig yng Nghymru lle mae treillio gwaelodol wedi'i wahardd yn llwyr. Mae papur briffio gan Ymchwil y Senedd yn 2019 yn rhoi mwy o wybodaeth gefndirol am rwydwaith Ardaloedd Morol Gwarchodedig Cymru.
Mae gan Lywodraeth Cymru gymhwysedd eang dros reoli dyfroedd y glannau (a elwir hefyd yn 'foroedd tiriogaethol'), sy'n ymestyn hyd at 12 milltir forol o'r arfordir. Enillodd y Senedd gymhwysedd deddfwriaethol dros bysgodfeydd ym mharth Cymru yn ei gyfanrwydd o dan Ddeddf Pysgodfeydd 2020, er bod trefniadau mynediad ar gyfer llongau'r UE ar ôl Brexit wedi’u nodi yn y Cytundeb Masnach a Chydweithredu rhwng y DU a'r UE. Cafodd amodau’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu o ran pysgodfeydd eu hymestyn yn ddiweddar o dan y Cytundeb Dealltwriaeth Gyffredin rhwng y DU a'r UE. Y Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd, a ddatblygwyd gan Lywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig, yw'r prif fecanwaith polisi ar gyfer rheoli pysgodfeydd yn gynaliadwy.
Mae Sefydliad Rheoli Morol Llywodraeth y DU ar hyn o bryd yn ymgynghori ar waharddiadau arfaethedig ar dreillio gwaelodol o fewn tua 30,000 km2 (tua thraean) o rwydwaith Ardaloedd Morol Gwarchodedig Lloegr.
Yn ei ymateb i'r ddeiseb, mae'r Huw Irranca-Davies AS, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, yn dweud bod defnydd cyfyngedig o dreillrwydi ymhlith fflyd bysgota Cymru, sy'n gweithredu’n bennaf ar raddfa fach ac ar y glannau. Mae’n dweud bod y prif ddefnydd o dreillrwydi gan longau Cymru yn digwydd ym mhysgodfeydd cregyn y brenin, sy'n cael eu rheoleiddio trwy Gynllun ar y cyd Rheoli Pysgodfeydd Cregyn y Brenin Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi comisiynu Prifysgol Bangor i ymchwilio i sensitifrwydd gwely’r môr a chyfanrwydd ecosystemau benthig mewn ardaloedd o bysgota am gregyn bylchog er mwyn llywio rheolaeth yn y dyfodol.
Dywed Ysgrifennydd y Cabinet y byddai cyfyngiadau yn y dyfodol ar offer pysgota sy’n treillio ar wely’r môr yn cael eu gweithredu fel rhan o Gynlluniau Rheoli Pysgodfeydd yn y dyfodol, gan gynnwys Cynllun Rheoli Pysgodfeydd Dyfnforol Môr Iwerddon a Chynllun Rheoli Pysgodfeydd Dyfnforol y Môr Celtaidd a Gorllewin y Sianel arfaethedig. Disgwylir i’r ddau Gynllun Rheoli Pysgodfeydd gael eu cyhoeddi yn 2026.
Tynnodd sylw hefyd at adroddiadau diweddar CNC sy'n asesu cyflwr Ardaloedd Morol Gwarchodedig Cymru. Roedd yr adroddiadau yn edrych ar 84 o nodweddion dynodedig o fewn Ardaloedd Morol Gwarchodedig ar y glannau a chanfuwyd nad oedd unrhyw gynefin na rhywogaeth a aseswyd o fewn rhwydwaith yr Ardaloedd Morol Gwarchodedig mewn cyflwr anffafriol oherwydd effeithiau a achosir gan bysgota.
Ystyriodd dadl fer yn y Senedd ar 9 Gorffennaf 2025 y cwestiwn 'A ddylai Llywodraeth Cymru wahardd treillrwydo ar waelod y môr yng Nghymru?'.
Cynhaliodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ymchwiliad ar reoli’r amgylchedd morol yn 2022. Dywedodd argymhelliad 17 o’i adroddiad y “Dylai Llywodraeth Cymru amlinellu diben ac amserlen yr ymgynghoriad cyhoeddus ar garthu a threillio gwely’r môr yn Ardaloedd Morol Gwarchodedig Cymru”. Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad, gan ddweud y bydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar gynigion ar gyfer unrhyw fesurau rheoli ar ôl i’r asesiadau offer tynnu gael ei gwblhau yn haf 2022. Er bod ymgynghoriadau penodol gan Lywodraeth Cymru ers 2022 wedi sôn am garthu a threillio (fel ymgynghoriad ar Gynllun Rheoli Pysgodfeydd Cregyn y Brenin), ymddengys nad oes unrhyw ymgynghoriad ehangach ar gyfyngu ar offer tynnu o fewn Ardaloedd Morol Gwarchodedig wedi digwydd.
Yn 2021, ystyriodd y Pwyllgor Deisebau ddeiseb gyda 205 o lofnodion o'r enw “Mae treillio ar wely’r môr yn lladd ein bywyd gwyllt morol… Rhowch y gorau i chwalu’n bywyd gwyllt morol!”. Mae rhagor o wybodaeth gefndirol ar gael yn y papur biffio ar gyfer y ddeiseb honno.
|
Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol. |